Diwinyddiaeth Paul - John Tudno Williams

Diwinyddiaeth Paul

Gan Gynnwys Sylw Arbennig i'w Ddehonglwyr Cymreig
Buch | Softcover
240 Seiten
2020
University of Wales Press (Verlag)
978-1-78683-532-1 (ISBN)
22,40 inkl. MwSt
Cyfrol sy’n cyflwyno ac yn egluro dysgeidiaeth yr Apostol Paul yng ngoleuni’r astudiaethau diweddaraf ohoni. Amlygir cyfraniad dau Gymro, C. H. Dodd a W. D. Davies, at yr astudiaethau hyn.
Cyflwynir yn y gyfrol hon holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a’i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a’i alwad apostolaidd, a’i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a’r ‘Pethau Diwethaf’; a thrafodaeth ar gyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae’r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae’n amlygu hefyd gyfraniad ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad, i astudiaethau Paulaidd.

Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw John Tudno Williams. Bu’n darlithio ym meysydd yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn y Coleg Diwinddol Unedig, Aberystwyth, am gyfnod helaeth, ac mae’n awdur esboniadau ar dri o lythyrau’r Apostol Paul. Bu’n Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr 1990–1.

Rhagarweiniad
Byrfoddau
1. Paul ac Iesu
2. Bywyd Cynnar yr Apostol Paul a’i Gefndir Meddyliol
3. Tröedigaeth neu Alwad?
4. Paul a’r Gyfraith
5. Soterioleg Paul
6. Cristoleg Paul
7. Anthropoleg Paul a’r Ysbryd yn Llythyrau Paul
8. Dysgeidiaeth Foesol Paul
9. Yr Eglwys yn Paul
10. Eschatoleg Paul
12. Y Llythyrau Diweddar a’r Epistolau Bugeiliol
Llyfryddiaeth
Mynegai

Erscheinungsdatum
Zusatzinfo No
Verlagsort Wales
Sprache Welsh
Maße 138 x 216 mm
Themenwelt Religion / Theologie Christentum Kirchengeschichte
ISBN-10 1-78683-532-0 / 1786835320
ISBN-13 978-1-78683-532-1 / 9781786835321
Zustand Neuware
Haben Sie eine Frage zum Produkt?
Mehr entdecken
aus dem Bereich
mein Leben mit Benedikt XVI.

von Georg Gänswein; Saverio Gaeta

Buch | Hardcover (2023)
Verlag Herder
28,00